P-05-828 - Gohebiaeth – Cymdeithas yr Iaith Gymraeg at y Cadeirydd, 21.02.19

Annwyl Gyfeillion

Ysgrifennaf atoch ar ran Cymdeithas yr Iaith a gydweithiodd â Chymdeithas Rhieni-Athrawon Ysgol Gynradd Bodffordd i drefnu'r ddeiseb a drafodir yn eich cyfarfod pwyllgor ar Ddydd Mawrth 5ed o Fawrth. Fe ddanfonon ni sylwadau manwl atoch ar 6.12.19 yn dangos fel yr oedd Cyngor Ynys Môn wedi peidio â chydymffurfio â gofynion statudol y Côd Trefniadaeth Ysgolion (2013) a oedd yn weithredol ar y pryd (Chwefror-Ebrill 2018) pryd y cymerwyd y penderfyniad i gau Ysgol Bodffordd. Dyna'r prawf fod angen yr hyn y gofynwyd amdano yn y ddeiseb

"sef pa gamau y gallai'r llywodraeth ganolog eu cymryd i sicrhau fod Awdurdodau Lleol yn cadw at ofynion statudol a chanllawiau'r Côd Trefniadaeth Ysgolion"

Y ddadl sylfaenol yw nad oedd diben mewn cyhoeddi fersiwn newydd o'r Côd (Tachwedd 1af 2018 - a sefydlodd egwyddoro blaid cadw ysgolion gwledig) os oedd Awdurdod Lleol yn gallu anwybyddu'r Côd ac nad oedd modd i Lywodraeth Ganolog sicrhau ei weithredu.

Wrth i chwi ystyried yn eich cyfarfod nesaf a ydyw'r llywodraeth wedi cynnig ymateb difrifol i'r ddeiseb, yr ydych chi wedi gofyn i ni gynnig ein hymateb i lythyr y Gweinidog Addysg atoch ar y 12ed o Chwefror KW/05271/19 yn rhoi ei hymateb hithau i'r ddeiseb "ac i ohebaieth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg".

Mae llythyr y Gweinidog yn egluro o'r diwedd nad oes unrhyw bwerau penodol ganddi i sicrhau fod Awdurdodau Lleol yn glynu wrth ofynion statudol y Côd, ac mai'r unig rymoedd sydd ganddi yw'r rhai cyffredinol a sefydlwyd yn Neddf Addysg 2013 i ymyrryd os bydd Awdurdod Lleol yn methu mewn dyletswydd addysgol statudol. Ein barn ni yw y byddai'n well ac yn gliriach petai cyflwyno grym penodol i'r Gweinidog fynnu bod Awdurdod Lleol yn cadw'n gydwybodol at ofynion y Côd, a bod hawl gan lywodraethwyr i apelio ati i ddefnyddio'r grym hwnnw os daw yn amlwg nad yw Awdurdod yn cydymffurfio â'i ddyletswyddau. (Mae hyn yn wahanol i'r drefn flaenorol lle bu hawl cyfeirio unrhyw benderfyniad ar apêl i'r Gweinidog adolygu'r holl benderfyniad).

Fodd bynnag, gan nad oes grym penodol o'r fath yn bodoli yn awr, nac ar y pryd pan gymerwyd y penderfyniad i gau Ysgol Bodffordd, dadleuwn fod penderfyniad i gau ysgol ac anwybyddu barn pobl leol a methu cydymffurfio â gofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion yn fethiant addysgol digon difrifol i alluogi'r Gweinidog i ymyrryd o dan y grym cyffredinol sydd ganddi o dan y ddeddf i ymyrryd pan fo methiant addysgol difrifol. Gyda'r grym hwn, gall ymyrryd trwy ddefnyddio (cymal 5) ei "grym cyffredinol i gyfarwyddo'r Awdurdod Lleol" naill ai (1) i dynnu'n ôl eu Hysbysiad i gau Ysgol Gynradd Bodffordd a chaniatau i rieni'r dewis o anfon eu plant i'r ysgol newydd yn Llangefni neu eu cadw yn Ysgol Bodffordd neu (2) o leiaf fod yr Awdurdod yn ailagor yr ymgynghoriad statudol gan gadw y tro hwn at ofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion. Byddai'r ail lwybr yn creu ansicrwydd ac oediad wrth adeiladu'r ysgol newydd y mae ei angen ar dref Llangefni, ac felly credwn fod y llwybr cyntaf yn well.

Mae'r Gweinidog hefyd yn egluro yn ei llythyr y gall unigolion neu gyrff gyflwyno cŵyn iddi os ydynt o'r farn nad yw Awdurdod Lleol wedi cadw at ofynion y Côd, ond bod disgwyl defnyddio trefniadau cwyno mewnol yr Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. Gwnaeth Cymdeithas yr Iaith gyflwyno cŵyn ffurfiol i Gyngor Ynys Môn nad oedd y Cyngor wedi cadw at eu dyletswyddau statudol yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion wrth benderfynu cau Ysgol Bodffordd. Yr ydym wedi derbyn ymateb swyddogol i'r cŵyn sydd yn ein barn yn gwbl annigonol ac yn brawf pellach fod angen grym penodol ar y Gweinidog Addysg i'w galluogi i fynnu bod Awdurdod Lleol yn cadw at ofynion y Côd.

Gwnawn ni grynhoi felly prif fethiannau'r Cyngor i gadw at y Côd Trefniadaeth Ysgolion wrth benderfynu cau Ysgol Bodffordd a pham bod ymateb y Cyngor yn gwbl annigonol. Methodd y Cyngor â dilyn y canllawiau statudol oedd mewn grym ar y pryd mewn dwy ffordd hanfodol bwysig (1) Diffyg gwerthusiad ystyrlon o opsiynau eraill heblaw am gau'r ysgol, a (2) diffyg asesiad ystyrlon o'r effaith ar y gymuned o gau'r ysgol. Yr ydym wedi anfon cŵyn ffurfiol at yr Awdurdod am y ddau fethiant sylfaenol hyn, ac maen nhw wedi ymateb. Eu hymateb yn y bôn yw eu bod wedi cadw at y canllawiau trwy (1) enwi opsiynau amgen heb eu gwerthuso a (2) ddatgan y byddent yn trafod gyda'r gymuned leol, heb wneud asesiad ystyrlon o effaith cau'r ysgol. Byddai derbyn yr ymagwedd hwn yn gwneud y Côd yn destun gwawd. Erys felly prif gwestiwn y ddeiseb, sef sut y bydd y Gweinidog yn gweithredu er mwyn sicrhau fod Awdurdodau Lleol yn gweithredu'r dykletswyddau statudol mewn realiti, nid mewn enw yn unig. Dyma'r manylion -

1) Diffyg Gwerthusiad o'r opsiynau amgen heblaw am gau Ysgol Bodffordd - Mae Adran 1.7 o'r Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013 (006/2013) yn dweud fod yn rhaid "rhoi sylw arbennig i (1) a ellid ystyried sefydlu ysgolion â mwy nag un sfale fel ffordd o gadw adeiladau, neu'r rhesymau dros beidio â dewis yr opsiwn hwn", (2) "a ellid ystyried opsiynau amgen heblaw cau'r ysgol, megis clystyru, cydweithredu neu ffedereiddio ag ysgolion eraill (gan ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio cysylltiadau TGCh rhwng safleoedd ysgolion), meu'r rhesymau dros beidio ag ystyried y rhain fel opsiwn amgen yn lle cau'r ysgol." Eto mae Adran 3.2 o'r un Côd yn datgan fod yn "rhaid cynnwys yr wybodaeth ganlynol yn y ddogfen ymgynghori (1) manylion unrhyw opsiynau amgen sydd wedi'u hystyried yn lle cau'r ysgol, a'r rhesymau dros beidio â bwrw ati â'r rhain". Yn olaf, mae Adran 3.1 o'r Côd yn datgan "Mae'r gyfraith achosion wedi pennu y dylai'r broses ymgynghori ....(4) sicrhau y caiff yr hyn sy'n deillio o'r ymgynghoriad ei ystyried mewn ffordd gydwybodol pan wneir y penderfyniad yn y pen draw". Methodd y Cyngor â chyflawni ei ddyletswydd cyfreithiol yn ôl y Côd ar y tri chyfri hyn. Cyhoeddwyd y Ddogfen Ymgynghori Statudol ar gyfer yr Ymgynghoriad am ddyfodol Ysgol Bodffordd (ac eraill yn ardal Llangefni) a redsodd o 20 Chwefror hyd 3 Ebrill 2018. Penderfynwyd ymgynghori'n statudol ar ddau opsiwn (A & B) a'r ddau opsiwn yn golygu cau Ysgol Bodffordd. Dyma'r ymgynghoriad statudol a arweiniodd at y penderfyniad a chyhoeddi Hysbysiad Statudol i gau Ysgol Bodffordd, ac nid oes ynddi ymdriniaeth o gwbl ag opsiynau eraill - heb sôn am "fanylion" fel y mae'r Côd yn ei fynnu. Yn eu hymateb i'n cŵyn, dywed y Cyngor eu bod wedi cyfeirio at bosibiliad ffedereiddio mewn cyfnod ymgynghori anstatudol blaenorol yn 2016. Mae'r ddogfen yn wir yn cyfeirio at "21 o syniadau" a gododd mewn ymgynghori anstatudol yn 2016 fel rhan o'r cefndir. Ond yr unig gyfeiriad at "ffedereiddio" yw un cymal lle dywedir fod rhywun wedi codi syniad o ffedereiddio ysgol newydd (hynny yw WEDI CAU Ysgol Bodffordd) gydag Ysgol arall. Dywed ymateb y Cyngor i'n cŵyn fod dogfen ymgynghori anstatudol flaenorol o 2016 am ardal Llangefni wedi cyfeirio at "41 opsiwn" a saith ohonynt yn berthnasol i Ysgol Bodffordd a'r ail oedd "Ffedereiddio gydag ysgol(ion) eraill". Ar y gorau, enwi pob posibiliad damcaniaethol sydd yma - does dim gwerthusiad o gwbl o fanteision ac anfanteision creu ffederasiwn nag ystyriaeth o ddifri, ac mae hyn yn gwneud y gofynion statudol yn destun gwawd. Yn eu hymateb pellach i'n cŵyn, dywed Cyngor Ynys Môn nad yw ffedereiddio "yn newid y sefyllfa o ran ol-groniad cynnal a chadw a chyflwr ysgol". Wrth gwrs nad yw e ddim ! Mecanwaith i resymoli defnydd adnoddau a gwella addysg yw ffedereiddio, nid i wella adeialdau ! Os dyna'r llinyn mesur, ni byddid byth yn ystyried ffedereiddio fel opsiwn amgen, a byddai canllawiau'r Côd wedyn yn ddiystyr. Nid dyna fwriad Llywodraeth Cymru ar y pryd. Ar ben hyn, yn ein hymateb yn y cyfnod ymgynghori statudol, cododd Cymdeithas yr Iaith gynllun amgen o greu Ffederasiwn rhwng Ysgol Uwchradd Llangefni a'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo fel ateb amgen, gan greu uned addysgol gref a rhesymoli'r defnydd o adnoddau. Yn eu hadroddiad i'r Pwyllgor Gwaith ar ganlyniadau'r ymgynghori, wnaeth y swyddogion ddim hyd yn oed crybwyll y cynllun hwn "a ddeilliodd o'r ymgynghoriad" (Adran 3.1 uchod) heb sôn am "ei ystyried mewn ffordd gydwybodol" a'i gwerthuso. Mewn gair, ni wnaeth y Cyngor ystyried manylion yr opsiynau amgen ac aethpwyd ymlaen i gymryd y penderfyniad difrifol i gau ysgol yn groes i ddymuniad rhieni a llywodraethwyr heb ystyried hyn. Does dim mecanwaith i sicrhau fod Awdurdod Lleol yn cadw at y Côd - sef testun y ddeiseb.

(2) Diffyg ystyriaeth o effaith cau'r ysgol ar y gymuned. - Trown yn ôl at Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013, a dywed Adran 1.7 eto "Mewn rhai ardaloedd, efallai mai ysgol fydd y prif ganolbwynt ar gyfer gweithgarwch cymunedol hefyd, a gallai ei chau arwain at oblygiadau y  tu hwnt i ddarparu addysg. Gall hyn fod yn nodwedd penodol mewn ardaloedd gwledig os defnyddiradeiladau ysgolion fel man i ddarparu gwasanaethau i'r gymuned" (Ni allai fod disgrifiad gwell o Ysgol Bodffordd, gan fod y Ganolfan Gymunedol yn rhan o adeiladau'r ysgol ei hun). Mae Adran 1.7 yn parhau y dylid "dangos fod effaith cau'r ysgol ar y gymuned wedi'i hasesu drwy lunio Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned, a dangos sut y gellid cynnal unrhyw gyfleusterau cymunedol a ddarperir gan yr ysgol ar hyn o bryd", ac ailadroddir hyn yn isbwynt (4) o'r adran. Mae Adran 3.2 yn datgan hefyd fod yn rhaid i'r Ddogfen Ymgynghorol (ymhlith pethau eraill) drin "effaith y cynigion ar y gymuned leol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig..." Nid oes yn y ddogfen ymgynghori ei hun unrhyw astudiaeth o effaith cau'r ysgol (a pheryglu'r unig ganolfan gymunedol yn y pentre) ar y gymuned, ond mae Atodiad 5 yn cyfeirio at "ddefnydd cymunedol" o adeilad yr ysgol newydd yn Llangefni. Yr awgrymn amlwg yw y dylai triogolion Bodffordd drosglwyddo eu gweithgareddau cymunedol i Langefni !. Yr un pryd, cyhoeddwyd dogfen (i'w gweld yma https://www.anglesey.gov.uk/documents/Dogfennau-Cy/Cyngor/Ymgynghoriadau/2018/Llangefni/Asesiadau-Effaith.pdf) o "Asesiadau Effaith" gweithredu'r cynlluniau i gau Ysgol Bodffordd. Bu 4 gwahanol asesiad yn yr un papur o 4 tudalen. Yr adran olaf (5) yw'r asesiad effaith ar y gymuned. Yn dilyn datganiad "methodoleg" sy'n datgan fod y Cyngor yn ystyried yn ofalus effaith cau ysgol ar gymuned, eir ymlaen i ddisgrifio lleoliadau daearyddol yr ysgolion, niferoedd y disgyblion a chyfeiriadau cwta at ymgynghori anstatudol blaenorol - ond dim cyfeiriad o gwbl at y ffaith y byddai cau Ysgol Bodffordd yn golygu nad oedd sicrwydd am unig ganolganfan gymunedol y pentre sy'n rhan o adeiladau'r ysgol. . Mewn gair nid oes unrhyw ymgais at asesiad difrifol o effaith cau'r ysgol ar y gymuned. Yn eu hymateb i'n cŵyn, dywed y Cyngor fod y Pwyllgor Gwaith, wrth benderfynu cau'r ysgol, hefyd wedi penderfynu "bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Chyngor Cymuned Bodffordd a chyda chymuned Bodffordd er mwyn diogelu a chadw'r neuadd gymuned". Yn lle astudiaeth effaith y mae felly drafodaethau yn unig gyda'r gymuned leol i weld a ellir cael hyd i ryw ffordd o arbed y ganolfan gymunedol. Hyd yma, ni ddaeth llwyddiant ac mae'r Cyngor yn apelio i unrhyw un sydd ag adnoddau i gymryd drosodd yr adeiladau. Dyw trafodaeth ddim yn sybstitiwt am asesu'r holl niwed a wneir i gymuned Gymraeg wrth gau'r ysgol, ac felly methwyd â chydymffurfio â'r gofynion statudol eto.

I grynhoi felly, ni allai fod achos cliriach o Awdurdod yn methu yn ei ddyletswydd addysgol a democrataidd i gadw at ofynion y Côd Trefniadaeth. Os na all y Gweinidog ymyrryd mewn achos fel hwn, go brin fod unrhyw bwrpas o gwbli gyhoeddi canllawiau y gall Awdurdodau Lleol eu hanwybyddu. Yn wir, mae'r un Awdurdod Lleol - Cyngor Ynys Môn - wedi torri'r Côd newydd o fewn dau ddiwrnod i'w gyhoeddi ar Dachwedd 1af 2018. Mae'r argraffiad newydd o'r Côd yn sefydlu rhagdyb o blaid ysgolion gwledig. Ond mae dogfen gychwynnol a gyhoeddwyd ddeuddydd wedyn gan y Cyngor ar addysg yn ardal Amlwch yn cyfeirio'n syth at gau ysgolion gwledig sy'n amlygu nad oes unrhyw newid agwedd o gwbl, ac yn sicr dim rhagdyb o blaid ysgolion gwledig. Dyma brawf ar y drefn bresennol. Naill ai y gwna'r Gweinidog Addysg ymyrryd ynghylch Ysgol Bodffordd a rhoi cyfarwyddion i'r Cyngor yn y modd a amlinellwyd ganddom ar y dechrau, neu bydd angen pwerau newydd ar y Gweinidog. Dyw llythyr y Gweinidog ddim yn amlygu sut y gall ddefndyddio ei grymoedd cyffredinol mewn achos fel hyn, ac nid yw testun y ddeiseb felly wedi ei ateb.

Yn gywir

Ffred Ffransis, ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg